Lleoliad:
Ystafell Bwyllgor 5
Dyddiad: Dydd Llun, 21 Tachwedd 2022
Amser:
13.30 -
16.38
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13122
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jenny Rathbone AS (Cadeirydd) Jane Dodds AS Altaf Hussain AS Sarah Murphy AS Sioned Williams AS Ken Skates AS Mark Isherwood AS Natasha Asghar AS |
Staff y Pwyllgor: |
Rhys Morgan (Clerc) Rachael Davies (Ail Glerc) Angharad Roche (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Ni chafwyd ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant
2 Profiadau yn y system cyfiawnder troseddol
Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Tom Franklin o Gymdeithas yr Ynadon.
3 Cynnig o dan Reolau Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 4, 7, 8 a 9 y cyfarfod heddiw a’r cyfarfod cyfan ar 28 Tachwedd 2022
Derbyniodd yr Aelodau y cynnig.
4 Profiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol – trafod y dystiolaeth
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn.
5 Gwrandawiad cyn penodi gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
O dan Reol Sefydlog 17.49, yn ymuno ag aelodau'r Pwyllgor ar gyfer y sesiwn hon oedd Aelodau’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus Natasha Ashgar AS a Mark Isherwood AS.
Clywodd yr Aelodau gan Derek Walker, yr ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rôl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.
6 Papurau i’w nodi
Nododd yr Aelodau y papurau.
6.1 Llythyr gan y Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (Cymru) at y Cadeirydd ynghylch effaith yr argyfwng costau byw ar hawliau menywod
6.2 Llythyr gan y Prif Weinidog at y Cadeirydd ynghylch y Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol
6.3 Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd a Chadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ynghylch gwrandawiad cyn penodi Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
6.4 Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid at y Prif Weinidog ynghylch craffu ar oblygiadau ariannol Biliau
7 Gwrandawiad cyn penodi: trafod y dystiolaeth a chytuno ar adroddiad drafft
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law yn y sesiwn a chytunwyd i gwblhau’r adroddiad drafft y tu allan i’r Pwyllgor.
8 Blaenraglen waith
Bu’r Aelodau’n trafod y flaenraglen waith.
9
Adroddiad monitro’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE: diweddariad
Cafodd yr Aelodau y wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.